
Mae ein Exeter Retort yn ailddefnyddio’r nwyon gwastraff, felly mae’n llai
llygredig na dulliau mwy traddodiadol o wneud golosg. Mae hefyd yn golygu y gallwn fod yn symudol – mynd â’r retort i leoliadau eraill os yw
hynny’n fwy priodol.
Rydyn ni’n dewis a sychu ein coed yn ofalus ar y safle, ac rydyn ni bob amser yn labelu ein bagiau gyda pha bren a ddefnyddiwyd. Bedw yw’r
mwyaf poblogaidd, ond rydym hefyd yn defnyddio sycamorwydden,
gwernen ac unrhyw bren caled brodorol.

Mae’r gofal a roddwn yn amlwg yn ansawdd ein cynnyrch.
Ond peidiwch â dibynnu ar ein gair ni, dyma beth sydd gan ein cwsmeriaid i’w ddweud:
“Rydw i wedi bod yn defnyddio Blackbird Charcoal ers nifer o flynyddoedd. Dechreuais ddefnyddio eu gwasanaeth am fy mod eisiau cefnogi busnesau lleol, ac roedd y syniad o gynnyrch lleol yn atseinio’r awyrgylch gymunedol. Ond, yn onest, cefais fy syfrdanu gan ansawdd y golosg a’r gwasanaeth cyfeillgar, dibynadwy a phrydlon a ddarparwyd.
Rwyf wedi argymell y golosg i nifer o ffrindiau a theulu, ac wrth gwrs byddwn yn eich annog i drio’r golosg! Ni fyddwch yn siomedig o ran y ffordd hawdd y mae’n tanio a hyd y gwres a gynhyrchir ar gyfer coginio!”James Harrison
“Mae Blackbird Charcoal yn curo brandiau eraill yn hawdd. Mae’ llosgi’n braf , rwy’n cael gwres gwych ar gyfer grilio ac mae’n llosgi’n dda wrth wneud ‘isel ac araf’. Mae’r agwedd gynaliadwy hefyd yn wych.”
Nick Feather, insta: @beerdsky_bbq
“Dechreuais fynd ati o ddifri i ddefnyddio BBQ tua 8-9 mlynedd yn ôl ac, dros amser, rwyf wedi rhoi cynnig ar bron bob math o olosg sydd ar y farchnad. Roeddwn bob amser yn chwilio am rywbeth nid yn unig o ansawdd uchel ond hefyd wedi’i wneud yn lleol ac yn gynaliadwy. Yna, cefais wybod am Blackbird Charcoal-ac yn onest, dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.. Mae ansawdd y golosg yn eithriadol: mae’n llosgi’n boeth, yn lân ac yn gyson, sydd yn union yr hyn rydych chi ei eisiau boed ar gyfer ‘isel ac araf’ neu dân cyflym i serio’r cig. Fel brenin y BBQ, rwy’n gwerthfawrogi nid yn unig y cynnyrch ond y cwmni y tu ôl
iddo-mae Blackbird bob amser wedi bod yn bleserus i ddelio â nhw. Hyd yn oed nawr, er eu bod wedi symud lleoliad, byddaf yn dal i archebu wrth y paled. I mi, mae’n werth ardderchog am arian, ac yn bwysicach, mae’n gynnyrch rwy’n ymddiried ynddo bob tro rwy’n tanio’r ysmygwr neu’r gril.”James Wales, insta: @pigsnakebbq


Ble i Brynu?
Dewch o hyd i ni ar Facebook neu Instagram i archebu a darganfod mwy.
Golosg Barbeciw
Gallwch brynu’n uniongyrchol gennym ni.
Cost:
£8.50 y bag (£7.50 a bag 10+, £6.75 y bag 20+).
E-bostiwch ni yn mel@blackbirdcharcoal.co.uk
Mae ein golosg barbeciw hefyd ar gael i’w brynu yn:
Charlies, Y Drenewydd
Bunners, Trefaldwyn
Cambrian Butchers, Y Drenewydd
Marchnad Stryd Bethel, Llanidloes. Sad: 10am-3pm
